Nice

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nice
Port Of Nice, Côte d'Azur.jpg
Arms of Nice.svg
Math Cymuned, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth 342,522 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Christian Estrosi Edit this on Wikidata
Cylchfa amser CET, UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir arrondissement of Nice, Alpes-Maritimes, canton of Nice-5, canton of Nice-7, canton of Nice-9, canton of Nice-8, canton of Nice-2, canton of Nice-1, canton of Nice-10, canton of Nice-11, canton of Nice-12, canton of Nice-13, canton of Nice-14, canton of Nice-3, canton of Nice-4 Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 71.92 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 10 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Var, Paillon, Magnan Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Aspremont, Cantaron, Colomars, Èze, Falicon, Gattières, La Gaude, Saint-André-de-la-Roche, Saint-Jeannet, Saint-Laurent-du-Var, Tourrette-Levens, La Trinité, Villefranche-sur-Mer Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.7019°N 7.2683°E Edit this on Wikidata
Cod post 06000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Nice Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Christian Estrosi Edit this on Wikidata

Nice (hefyd Nissa) (Niçois: Niça; Eidaleg: Nizza) yw pumed ddinas fwyaf Ffrainc. Mae hi wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain Ffrainc wrth y Môr Canoldir ym Mae yr Angylion.

  • Nice yw prifddinas adran yr Alpes-Maritimes a phrif ddinas y Côte-d'Azur.
  • Gelwir Nice yn "Frenhines y Riviera".
  • Daeth enw Nice o'r hen enw Groeg Νικαία (Nikaia).
  • Roedd Nice yn dalaith annibynnol i Ffrainc cyn iddo ymuno yn 1860. Mae llawer yn credu bod Nice yn arfer perthyn i'r Eidal ond dydy hyn ddim yn gywir. Roedd hi'n arfer perthyn i deyrnas Sardinia. Pan ymunodd Sardinia a'r Eidal fe ymunodd Nice a Ffrainc.

Hinsawdd Nice[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Nice ar lan y Môr Canoldir ac mae'r Alpau sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y tywydd oer. Mae manylion hinsawdd Nice yn yr erthygl "Hinsawdd y Riviera".

Ffeithiau diddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae'r Promenade des Anglais (Niçois: Camin dei Engles; "Promenâd y Saeson") rhyw bum milltir o hyd. Gafodd ei adeiladu gan y Saeson yn 1820 er mwyn gallu mynd am dro ar lan y môr.
  • Pob canol dydd fe fydd magnel yn saethu ergyd o fryn y castell. Fe ddechreuwyd y ddefod hon gan Sais o'r enw Thomas Coventry oedd yn mynnu bwyta ei ginio am ddeuddeg o'r gloch.
  • Maes-glanio Nice yw maes-glanio mwyaf Ffrainc tu allan i Baris.
  • Canolfan siopa "Cap 3000" ("Cap trwâ mîl") gerllaw yn St. Laurent-du-Var yw'r canolfan siopa fwyaf ar y Côte-d'Azur a chanolfan siopa gyntaf Ffrainc.
  • Mae mwy o oleuadau traffig yn Nice nag unrhyw ddinas arall yn Ffrainc. Y cyntaf oedd ar y groesffordd rhwng Avenue Jean Médecin a Boulevard Victor Hugo yn nghanol y ddinas.
  • Mae trên bach; Chemins de fer de Provence yn mynd o Nice i Digne-les-Bains. Mae hwn yn daith ddiddorol sy'n mynd drwy mynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein, Le train des pignes (trên y pîn) sy'n llosgu pîn yn lle glo.
  • Mae yna drên diddorol arall; Train des merveilles (trên y rhyfeddodau) yn mynd drwy mynyddoedd y cefnwlad o Nice i Tende ac ymlaen i Cuneo yn yr Eidal. Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnel sy'n troi fel allwedd costrel tu mewn y mynydd.

Pobl o Nice[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Nice
yn Wiciadur.